MARI LLOYD PRITCHARD
Originally from Rhosmeirch on Anglesey, MARI LLOYD PRITCHARD was raised surrounded by music and attended choral rehearsals wth her parents from a very young age. Mari graduated in music at Bangor University where she won a special award for the best degree recital. She continued to sing in small classical ensembles and in operas before focusing her talent to work with young people, the Anglesey Youth Choir being an important part of her career over the last thirteen years. There are over 130 members in the choir and under her baton, they have sung in amazing places such as the Albert Hall, Wales Millenium Centre and Birmingham Symphony Hall and have worked with noted musicians such as Karl Jenkins, Catrin Finch, Bryn Terfel and Gwyn Hughes Jones.The choir has won many prestigious competitions at the Llangollen Eisteddfod, the National Eisteddfod and also the choral competition Cor Cymru on S4C. This year, they won two categories in this competition and Mari won the best conductor award for the second time. Mari enjoys conducting the adult choir Encôr, a choir for over 60’s set up for the National Eisteddfod on Anglesey where she also felt honoured to be responsable for the Eisteddfod’s opening concert. She now lives in Beaumaris with her husband Gary, and two children Ifan and Gwenno where brass bands, the Welsh football team and music is at the heart of this family’s life.
Yn enedigol o Rosmeirch, Ynys Môn mae MARI LLOYD PRITCHARD wedi ei magu ar aelwyd gerddorol gan fynychu ymarferion corawl gyda’i rhieni ers yn ifanc iawn. Does dim amheuaeth fod seiniau Côr y Traeth, Rhianedd Môn, Côr Bro Ddyfnan ac yn bennaf Hogiau Bryngwran, yn sbardun i’w chariad am ganu corawl. Bu i mi Mari raddio mewn cerdd ym Mhrifysgol Bangor gan ennill gwobr am y datganiad gradd gorau fel soprano. Aeth ymlaen i ganu mewn ensemblau clasurol ac operau cyn rhannu ei dawn gerddorol gyda pobl ifanc yn Theatr Ieuenctid Môn a Chôr Ieuenctid Môn. Mae dros 130 o aelodau yn y Côr Ieuenctid bellach ac mae’r côr o dan ei arweiniad wedi perfformio ar lwyfannau hynaws megis Neuadd Albert, Canolfan y Mileniwm a Neuadd Symffoni Birmingham ac wedi cyd-weithio â chyfansoddwyr a cherddorion hynaws megis Karl Jenkins, Catrin Finch, Bryn Terfel a Gwyn Hughes Jones a llawer mwy. Mae’r Côr Ieuenctid wedi cyrraedd y brig yn Eisteddfod Llangollen, yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth Côr Cymru ar S4C. Eleni, fe ddaethant i’r brig mewn dau gategori gan ennill y categori o dan 16 oed a’r côr sioe. Bu i Mari hefyd ennill gwobr arweinydd gorau’r gystadleuaeth a hynny am yr ail dro yn hanes y gystadleuaeth. Mae hefyd yn mwynhau arwain côr oedloion Encôr (cantorion dros 60 oed) a sefydlwyd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn. Braint iddi hefyd oedd cyd-lynnu cynllun Hedd Wyn ar gyfer noson agoriadol yr Eisetddfod hon. Mae Mari bellach yn byw yn Beaumaris gyda’i gŵr Gary a’u plant Ifan a Gwenno ac mae’n wir dweud fod cerddoriaeth, byd y bandiau pres, tîm pêl-droed Cymru yng nghalon gweithgarwch hapus yr aelwyd