David Juritz

David Juritz

DAVID JURITZ

DAVID JURITZ was born in Cape Town, South Africa, and came to London to study violin at the Royal College of Music with Hugh Bean and Jaroslav Vanecek and won the college’s highest award, the Tagore Gold Medal. On leaving the RCM he joined the English Chamber Orchestra before being appointed leader of the London Mozart Players, a position he held from 1991 to 2010. He has appeared as soloist and/or director with many orchestras and ensembles around the world, and his award-winning recordings include Vivaldi’s Four Seasons (with LMP), Bach’s Sonatas and Partitas for solo violin, music by Polish composer, Grazyna Bacewicz, and numerous chamber music programmes. In 2005 he took on the role of artistic director of the Burton Bradstock Festival in Dorset, and in 2007 formed the London Tango Quintet. His most recent project, a CD of piano trios by Shostakovich and Hans Gal with the Briggs Trio, was released to widespread acclaim in 2018. In 2007 he took a five-month sabbatical to busk around the world. On the 60,000 mile journey through 50 cities in 24 countries on 6 continents, he paid for the entire journey with his busking earnings by playing Bach on the streets. He used the trip to raise funds for music education projects in developing countries. Between 2007 and 2015, his charity Musequality raised £400,000 to support life-changing music projects for disadvantaged children in 8 countries in Africa and Asia. David plays on a violin made by J.B. Guadagnini in Piacenza in 1748.

Ganwyd DAVID JURITZ yn Cape Town, De Affrica, a daeth i Lundain i astudio’r feiolin yn y Royal College of Music gyda Hugh Bean a Jaroslav Vanecek. Enillodd wobr fwyaf y coleg, y Fedal Aur Tagore. Wrth adael, ymunodd a’r Gerddorfa Siambr Saesneg cyn bod yn arweinydd i’r London Mozart Players rhwng 1991 a 2010. Mae wedi ymddangos fel unawdydd ac/neu fel arweinydd gyda nifer o gerddorfeydd ac ensembles o gwmpas y byd, ac mae ei recordiadau adnabyddus yn cynnwys Four Seasons Vivaldi (gydag LMP), Sonatau a Partitas Bach ar gyfer y feiolin, cerddoriaeth gan gyfansoddwr Pwyleg, Grazyna Bacewicz, a nifer o raglenni cerddoriaeth siambr. Yn 2005, buodd yn arweinydd artistig ar gyfer y Burton Bradstock Festival yn Dorset, ac yn 2007, sefydlodd y London Tango Quintet. Cymeradwywyd ei waith mwyaf diweddar yn 2018, CD o driawdau piano Shostakovich a Hans Gal gyda’r Briggs Trio. Yn 2007, cymrodd gyfnod sabothol am bum mis er mwyn teithio yn chwarae cerddoriaeth ar strydoedd y byd. Ar y daith yma, oedd yn 60,000 milltir drwy 50 dinas a 24 gwlad ar 6 cyfandir, fe dalodd am yr holl daith gyda’i enillion o chwarae cerddoriaeth Bach ar y strydoedd. Defnyddiodd y trip fel ffordd o godi arian ar gyfer brojectau addysg gerddoriaeth mewn gwledydd sy’n datblygu. Rhwng 2007 a 2015, cododd ei elusen Musequality, £400,000, i gefnogi projectau cerddoriaeth ardderchog ar gyfer plant difreintiedig mewn 8 gwlad yn Affrica ac Asia. Mae David yn chwarae feiolin gafodd ei greu gan J.B. Guadagnini.